|
BWYTA ALLAN YN ERYRI
Ceir yn Eryri amrywiaeth eang o leoedd i fwyta, o ystafelloedd te traddodiadol, amrywiaeth o fistros a bwytai ffurfiol ac anffurfiol, hen dafarndai, gwestai, cafés a siopau pysgod a sglodion sydd wedi ennill gwobrwyon.
Mae mynyddoedd ac arfordiroedd Eryri yn enwog am eu cigoedd Cymreig a cheir iddynt felyster arbennig, bîff yn enwedig, pysgod a physgod cregyn, cawsau arbenigol, jamiau, cyffeithiau a siocledi. Mae’r cynnyrch Cymreig mor gyfoethog ac amrywiol a thirwedd yr ardal.
Mewn llawer o siopau, marchnadoedd, ffermydd a cheginau, pwysleisir ar yr ansawdd a’r blas; dyma wir ystyr o sut y mae bwyd i fod i flasu.
Nôd y we fan hon yw darparu ar eich cyfer ragor o wybodaeth ynghylch y gwahanol fathau o sefydliadau lle gallwch fwyta, y mathau o fwyd a gaiff ei weini yno, y cyfleusterau a’u ddarperir a’u lleoliad yn ogystal.
Er mwyn dewis sefydliad bwyta, dewiswch y dewis ‘chwilio’ oddi ar ddewislen y safle a rhoi eich gofynion yn y blychau priodol er mwyn canfod rhestr o sefydliadau sy’n cwrdd â’r meini prawf a ddewiswyd gennych. Neu, dewiswch y dewis rhestr testun er mwyn cael rhestr ddefnyddiol wedi ei hargraffu o’r holl sefydliadau a geir mewn tref neilltuol. Gobeithio y bydd y safle hon yn ddefnyddiol, mwynhewch eich profiad o fwyta allan ymhlith Mynyddoedd ac Arfordir Eryri.
|
|